Dadguddia/Datguddia'n gyflawn i'm ar frys

Datguddia'n gyflawn im' ar frys,
Ogoniant maith dy nefol lys,
  Didranc bleserau'r santaidd dir:
O dangos im' mai ti yw'm rhan,
Ac o'r dyfnderoedd tyn fi i'r lan,
  I'th gyflawn weled cyn b'o hir.

Tydi yw'r ffynnon fawr ddidrai,
Sy'n rhoddi dyfroedd i barhau,
  Rhyw ffrydiau o anfeidrol ryw;
Gwlad lawn o gariad yw dy hedd,
A nef y nef yw
    gwel'd dy wedd,
  Y nawdd a'r cysur
      mwya fyw.

Rwi'n canu'n iach ' bob
    peth ynghyd
A ganfu natur yn y byd,
  Gwagedd o wagedd ydynt hwy:
Rwi'n gwel'd mai'm hetifeddiaeth yw,
Trag'wyddol gariad pûr fy Nuw,
  Fy nghysur ar y ddaear mwy.
Ac o'r dyfnderoedd tyn fi i'r lan ::        
        A d'wed caf ddyfod yna i'r lan
        A thyn fi o'r dyfnder mawr i'r lan

William Williams 1717-91

[888D]

gwelir:
  Dyhildla Iesu'th nefol ras
  Fe welir Seion fel y wawr
  Pa bryd y ffŷ cymylau'r nos
  Yr holl grëadigaeth faith ynghyd

Reveal fully to me quickly,
The vast glory of thy heavenly court,
  The undying pleasures of the sacred land:
O show me that thou art my portion,
And from the depths draw me up,
  To see thee fully before long.

Thou art the great unebbing fount,
Who givest waters to endure,
  Some streams of an immeasurable kind;
A land full of love is thy peace,
And the heaven of heaven is
    seeing thy countenance,
  The and greatest refuge
      and comfort alive.

I am bidding farewell to
    everything altogether
That nature found in the world,
  The vanity of vanity are they:
I am seeing that my inheritance is
The pure, eternal love of my God,
  My comfort and the earth evermore.
And from the depths draw me up ::        
        And say that I may come up there
        And draw me up from the great depth

tr. 2020,21 Richard B Gillion
























 
 
 

? Isaac Watts 1674-1748

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~